Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

Sut all cyfreithiwr fy helpu?

Petaech yn cysylltu â chyfreithiwr oherwydd i chi gael eich cam-drin, neu fod ofn cael eich cam-drin arnoch, dylai'r cyfreithiwr eich cynghori ynglwn â'r hyn y gallwch ei wneud, a'r dewisiadau gorau ar gyfer eich sefyllfa.

Sut alla i gael cyfreithiwr i'm helpu?

Gall cyfreithiwr eich helpu i gael gwaharddeb (gorchymyn llys) i'ch cadw'n ddiogel, os oes angen un arnoch. Ond efallai nad oes angen i chi gael gwaharddeb - weithiau gall llythyr cryf oddi wrth eich cyfreithiwr atal eich partner rhag eich cam-drin drachefn. Dylai cyfreithiwr allu trefnu i chi gael cyngor ynglwn ⠣hymorth gydag arian a thw, petaech wedi methu ⠤atrys y rhain eich hunan.

Dylai'ch cyfreithiwr edrych a allwch chi gael cymorth cyfreithiol i dalu am unrhyw achos llys. Mae gallu derbyn cymorth cyfreithiol yn dibynnu ar faint a enillwch ac ar faint o arian ac eiddo sydd gennych, er nad yw'r terfynau arferol yn berthnasol ar gyfer achosion o gam-drin yn y cartref. Mae hefyd yn dibynnu ar eich achos ac a oes angen cyfreithiwr arnoch i wneud cais i'r llys ar eich rhan. Fe all y byddwch yn gorfod talu rhan o'r costau. Gweler Alla i Gael Cymorth Cyfreithiol am ragor am hyn.

Fe all y dywed rhai cyfreithwyr wrthych na allwch gael cymorth cyfreithiol petaech yn gallu defnyddio'r heddlu i'ch amddiffyn neu i erlyn eich partner, ond nid yw hyn yn wir. Os ydych eisiau gwneud cais am orchymyn llys i'ch amddiffyn eich hun rhag cam-drin yn y cartref, a'ch bod angen cymorth cyfreithiol i wneud hynny, dylai'r cyfreithiwr eich helpu i wneud cais. Bydd y ffurflen gais yn gofyn a ydych wedi dweud wrth yr heddlu am y mater, ond ni wnaiff hyn eich rhwystro rhag cael cymorth cyfreithiol.

Os nad ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol, bydd yn rhaid i chi dalu'ch cyfreithiwr ⧣h arian eich hun (neu eich cynrychioli'ch hun). Gall cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol fod yn ddrud, felly gofynnwch i'ch cyfreithiwr ar y cychwyn am amcangyfrif realistig o'r costau.


nôl i'r dechrau

Sut alla i ganfod cyfreithiwr?

Bydd arnoch angen cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith teulu ac sydd hefyd, o bosib, yn cymryd achosion cymorth cyfreithiol. Gallwch gael manylion cyfreithwyr teulu yn eich ardal ar:

  • gyfeiriadur y Gwasanaeth cyfreithiol cymundeol
  • Cymdeithas y Cyfreithwyr, sydd â Phanel Cyfraith Teulu. Mae'n ofynnol i gyfreithwyr sydd ar y panel hwn basio arholiad a phrofi bod ganddynt brofiad yng nghyfraith teulu, a
  • Resolution, sy'n gymdeithas o gyfreithwyr arbenigol sy'n ymagweddu'n gadarnhaol at faterion teulu a pherthynas, gan geisio cadw pethau'n gyfeillgar (hynaws neu gwrtais).

Gallwch hefyd gael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth neu Ganolfan Gyfraith. 

Os oes angen cymorth brys arnoch oherwydd, er enghraifft, bu'n rhaid i chi adael eich cartref, eglurwch hyn pan fyddwch yn ffonio swyddfa'r cyfreithiwr am apwyntiad. Mewn rhai ardaloedd ceir rhwydwaith o gyfreithwyr sy'n delio â cham-drin yn y cartref. Os na all cwmni eich gweld yn syth, fe'ch trosglwyddant i gwmni arall fydd yn gallu.


nôl i'r dechrau

Beth os na allaf gael cymorth cyfreithiol ac na allaf fforddio cyfreithiwr?

Bwriadwyd i'r broses o wneud cais i lys i gael diogelwch rhag trais yn y cartref fod yn hawdd, fel y gallai pobl weithredu drostynt hwy eu hunain. Gall eich Llys Achosion Teuluol lleol neu swyddfa'r llys sirol roi'r ffurflenni sydd raid i chi eu llenwi i chi ynghyd â thaflen, 'Rhan IV o'r Ddeddf Cyfraith Teulu 1996: Sut y gall fy helpu?' Gallwch hefyd lawrlwytho'r ffurflenni hyn a'r daflen oddi ar wefan y Gwasanaeth Llysoedd, www.hmcourts-service.gov.uk.

Os gwnewch gais yn y llys sirol, fe all y byddwch yn gorfod talu'r tâl ymgeisio (£60 ar hyn o bryd). Os ydych ar fudd-daliadau neilltuol, er enghraifft, Lwfans Ceisio Gwaith, ni fydd raid i chi dalu. Gallwch lenwi ffurflen yn gofyn am ddileu'r tâl, pe gofynnid i chi ei dalu ond na allwch ei fforddio.

Petaech eisiau dod ag achos heb ddefnyddio cyfreithiwr, mae gan y sefydliad Hawliau Merched lyfr, 'The Domestic Violence DIY Injunction Handbook', gyda gwybodaeth a chyngor. Gallwch archebu copi ohono trwy wefan Hawliau Merched, www.rightsofwomen.org.uk.


nôl i'r dechrau

Beth allech chi wneud nawr:

nôl i'r dechrau