Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

Cuddio'ch ymweliadau: cuddio'ch ymweliadau a chofnodion eich ymweliadau yn y gorffennol

Beth ydyw?

Mae ein gwefan yn cynnig ffordd gyflym o guddio'ch ymweliad. Mae'r canllaw hwn yn egluro sut mae gwneud hyn, a sut i ddileu eich hanes pori (cofnod o'r gwefannau yr ymwelwch â hwy) fel na all unrhyw un wybod pa wefannau yr ydych wedi ymweld â hwy.

Cuddio'ch ymweliad

I guddio'ch ymweliad presennol, cliciwch ar y botwm "Cuddio fy ymweliad" ar frig pob tudalen. Bydd clicio ar y botwm hwn yn eich arwain i hafan Google.

Bydd clicio ar y botwm "Cuddio fy ymweliad" ond yn cuddio'ch ymweliad presennol; bydd cofnod o'ch ymweliad yn dal yn eich porwr. I ddileu cofnodion o'r fath, dilynwch y cyfarwyddiadau isod.

Sut mae cuddio'ch hanes pori?

Pan ddefnyddiwch y rhyngrwyd, fel rheol bydd eich porwr yn cadw gwybodaeth ar ba dudalennau yr ydych wedi ymweld â hwy. Gallwch ddileu yr wybodaeth hon trwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod sy'n berthnasol i'ch porwr. I ganfod pa borwr a ddefnyddiwch, cliciwch ar "help" ym mar uchaf eich porwr.

Ceir nifer o wahanol fathau o gyfrifiaduron a systemau gweithredu. Seiliwyd ein cyfarwyddiadau ar gyfrifiaduron sy'n defnyddio Windows XP ac Apple OS X, ond bydd y cyfarwyddiadau'n debyg ar gyfer systemau gweithredu eraill.

Argymhellwn eich bod yn mynd i dudalen "ddiogel" (un na fyddai neb yn ei gwrthwynebu, er enghraifft un am y tywydd neu wybodaeth leol) cyn i chi ddilyn y cyfarwyddiadau hyn. Os arhoswch ar ein gwefan ni wrth i chi eu dilyn, gall y bydd eich porwr yn cadw'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon.

Internet Explorer

Ceir ychydig o wahanol fersiynau o Internet Explorer; mae'r wybodaeth isod ar gyfer Internet Explorer 7. Dylai'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer fersiynau eraill fod yn debyg neu ychydig yn wahanol yn unig.

1. Cliciwch ar “Tools".
2. Dewiswch "Internet Options".
3. Ar y tab "General", cliciwch i ddewis "Browsing history" yna clicio'r botwm "Delete".
4. Yna dewiswch "Temporary Internet Files" yna cliciwch "Delete files" (bydd angen clicio "yes" os bydd naidlen yn ymddangos).
5. Dewiswch "History" yna cliciwch "Delete History" (eto, bydd angen clicio "yes" os bydd naidlen yn ymddangos).
6. Dewiswch "Form Data" yna cliciwch "Delete Forms" (bydd angen clicio "yes" os bydd naidlen yn ymddangos).
7. Yn olaf, cliciwch ar "Close" ar waelod y ffenestr hon.

Firefox neu Netscape

Mae'r camau canlynol ar gyfer rhai sy'n defnyddio Firefox ar gyfrifiadur Windows XP. Am gyfarwyddiadau ar sut i ddileu eich hanes pori wrth ddefnyddio Firefox ar Apple Macintosh, sgroliwch i lawr.

Firefox ar Windows XP

1. Cliciwch ar "Tools".
2. Cliciwch ar "Privacy" ar y ffenestr naidlen.
3. Cliciwch ar y ddolen "clear your recent history".
4. Ceir blwch cwympo gydag ychydig o ddewisiadau ar gyfer dileu eich hanes pori; gallwch ddileu eich hanes am yr awr ddiwethaf, y pedair awr diwethaf, y diwrnod diwethaf, neu'r cyfan.
5. Yna dewiswch yr hyn ydych am ei ddileu; rydym yn argymell "Browsing and Download History, "Form & Search History" a "Cache".
6. Wedi i chi ddewis beth i'w glirio, cliciwch ar y botwm "Clear Now".
7. Yn olaf, cliciwch ar "OK" i gau'r blwch Options.

Firefox ar Apple Macintosh

1. Cliciwch ar "Tools".
2. Dewiswch "Clear Private Data".
3. Sicrhewch bod yna diciau i'r dde o "Browsing History", "Saved Form and Search History", "Cache" ac "Authenticated Sessions".
4. Yna cliciwch ar "Clear Private Data Now".

Opera

1. Cliciwch ar "Tools".
2. Cliciwch ar "Preferences".
3. O'r dudalen hon, dewiswch y tab "Advanced".
4. Ar y dudalen hon, cliciwch ar yr adran "History" ar ochr chwith y sgrîn.
5. Nawr cliciwch ar y botwm "Clear" i'r dde o "Addresses".
6. Nesaf cliciwch ar "Empty Now" i'r dde o "Disk Cache".
7. Yn olaf bydd angen i chi glicio ar "OK" ar waelod y dudalen er mwyn cau'r dudalen "Preferences".

Safari

Mae Safari ar gael i ddefnyddwyr Windows ac Apple Macintosh; mae gennym gyfarwyddiadau i'r rhai sy'n defnyddio Safari ar Windows XP ac Apple OS X.

Safari ar Windows XP

1. I ddileu'ch hanes pori, cliciwch ar "History" ar y ddewislen ar frig y dudalen.
2. Cliciwch ar "Clear History".
3. Ar y blwch neidlen, cliciwch ar "Clear".
4. I ddileu'r cache, cliciwch ar "Edit" ar y ddewislen ar frig y dudalen.
5. Cliciwch ar "Empty Cache".

Wedi i chi ddileu'ch hanes pori, gallwch ddefnyddio "Private Browsing". Mae Private Browsing yn golygu y gallwch ddefnyddio'r porwr heb i'ch hanes pori gael ei gadw gan Safari o gwbl.

1. I ddefnyddio Private Browsing, cliciwch ar "Edit" ar y ddewislen ar y brig.
2. Yna cliciwch ar "OK" yn y blwch a ddangosir.

Safari ar Apple OS X

1. I ddileu'ch hanes pori, cliciwch ar "History" ar y ddewislen ar frig y dudalen.
2. Cliciwch ar "Clear History".
3. Ar y blwch neidlen, cliciwch ar "Clear".
4. I ddileu'r cache, cliciwch ar "Safari" ar y ddewislen ar frig y dudalen.
5. Cliciwch ar "Empty Cache".

Wedi i chi ddileu'ch hanes pori, gallwch ddefnyddio "Private Browsing". Mae Private Browsing yn golygu y gallwch ddefnyddio'r porwr heb i'ch hanes pori gael ei gadw gan Safari o gwbl.

1. I ddefnyddio Private Browsing, cliciwch ar "Edit" ar y ddewislen ar y brig.
2. Yna cliciwch ar "OK" yn y blwch a ddangosir.

nôl i'r dechrau