Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

PYNCIAU

Wrth chwilio am gyngor cyfreithiol yn ôl pwnc, mae’r canlyniadau yn rhoi cynnwys o bob rhan o’r safle, yn cynnwys detholiad o’r gwefannau cyngor gorau yn y DG.

Caiff y pynciau y medrwch chwilio amdanynt eu rhestru islaw:

Addysg a Defnyddwyr

Yn cynnwys gwybodaeth am bob agwedd o flynyddoedd addysgol plant a phobl ifanc ac yn arbennig am broblemau cyfreithiol yn ymwneud â’r gwasanaeth addysg, yn cynnwys methiant i ddarparu addysg; dulliau o gyllid gwladol ar gyfer addysg; ac addysg ar gyfer rhai gydag anghenion neilltuol. Hefyd yn cynnwys addysg barhaus a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n dysgu.

Amgylchedd a Chefn Gwlad

Yn cynnwys gwybodaeth am ddiogelu’r amgylchedd a mynediad a defnydd cefn gwlad

Arian a Threthi

Yn cynnwys gwybodaeth am broblemau cyfreithiol yng nghyswllt trethiant yn cynnwys hunanasesiad ar gyfer treth incwm; eithriadau o dreth enillion cyfalaf; terfynau treth etifeddiaeth; talu toll stamp wrth brynu tŷ; a chyfraddau ac atebolrwydd treth cyngor a threth ar werth. Defnyddiwch hefyd ar gyfer agweddau cyfreithiol problemau buddsoddiad a chynilion, pensiynau ac yswiriant.

Budd-daliadau

Yn cynnwys gwybodaeth am hawl person i bob math o fudd-daliadau lles. Caiff budd-daliadau eu rhestru n ôl y digwyddiad bywyd neu fath o hawliad.

Cyfathrebu a Chyfryngau

Gwybodaeth am wahanol ddulliau o gyfathrebu; torri neu gamddefnyddio hawlfraint; a phroblemau am unrhyw agwedd o gyfryngau torfol.

Cyflogaeth

Yn cynnwys gwybodaeth ar broblemau cyfreithiol yn gysylltiedig â digwyddiadau yn y gweithle, megis diswyddo annheg neu broblemau gydag amodau a thelerau cyflogaeth.

Hamdden, Trafnidiaeth a Theithio

Yn cynnwys gwybodaeth am agweddau cyfreithiol gweithgareddau amser-hamdden, yn cynnwys chwaraeon dan do ac awyr agored a diddordebau hamdden a diwylliannol eraill. Defnyddiwch ar gyfer agweddau cyfreithiol defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat a hawliau defnyddwyr ffordd. Defnyddiwch hefyd ar gyfer problemau gyda gwyliau.

Heddlu a Throseddau

Yn cynnwys gwybodaeth am broblemau cyfreithiol ynghylch help gyda thrafodion troseddol, yn cynnwys ymchwiliadau troseddol; arést a chadw mewn gorsaf heddlu ac erlyniadau dilynol; a phwerau’r heddlu yng nghyswllt yr unigolyn. Defnyddiwch hefyd ar gyfer gwybodaeth am droseddau neilltuol a hawliau carcharorion.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Yn cynnwys gwybodaeth am hawliau cleifion yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth am esgeulustod meddygol, afiechydon neu anhwylderau neilltuol; a mynediad i wasanaethau gofal cymdeithasol.

Llywodraeth, Cyfraith a Hawliau

Yn cynnwys gwybodaeth am hawliau cyfraith gyhoeddus, yn cynnwys gweithgaredd adolygu barnwrol sydd ar gael lle ystyrir fod y llywodraeth wedi gweithredu’n anghywir neu’n annheg. Defnyddiwch hefyd ar gyfer hawliau newydd a ddyfarnwyd dan y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Deddf Hawliau Dynol 1998 ac ar gyfer mynediad i’r gyfraith lle mae angen gweithredu llys neu weithredu arall.

Materion Defnyddwyr

Yn cynnwys gwybodaeth ar bob math o gontract a thrafodion yn ymwneud â defnyddwyr. Defnyddiwch ar gyfer cyngor am wneud hawliad pan nad yw cynnyrch yn gwneud yr hyn y mae’r gwerthwr neu’r gwneuthurydd wedi dweud y byddai.

Mewnfudo a Dinasyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth am pryd mae angen caniatâd i gael mynediad ac aros ym Mhrydain; y gofynion am statws mewnfudwr; ceisio lloches; sefyllfa ffoaduriaid; dinasyddiad; a pha help y mae gan fewnfudwyr hawl iddo pan fyddant wedi mynd drwy weithdrefnau mynediad.

Tai a Digartrefedd

Yn cynnwys gwybodaeth ar broblemau cyfreithiol yn gysylltiedig â phrynu neu werthu eich cartref; a phroblemau gyda llety rhent yn cynnwys eich troi o’ch cartref yn anghyfreithlon, harasio, a dyledion rhent a morgais. Defnyddiwch hefyd am help gyda phroblemau digartrefedd ac anghydfod gyda chymdogion.

Teuluoedd

Yn cynnwys gwybodaeth ar bob mater teuluol, yn cynnwys beth i’w wneud os ydych eisiau i’ch plant fyw gyda chi yn dilyn ysgariad; yr hyn y medrwch ei wneud am drais yn y cartref; beth i’w wneud os eir â’r plentyn i ofal awdurdod lleol neu ei gyflwyno ar gyfer mabwysiadu.

Trafodion yn erbyn yr heddlu

Mae’r categori hwn yn cynnwys help cyfreithiol gyda hawliadau yn erbyn yr heddlu. Er enghraifft, gallwch fod angen cyngor ar drafodion yn erbyn yr heddlu am ymosodiad, dod i mewn i’ch cartref, carcharu ar gam, arest anghywir, ymyrryd gyda’ch eiddo, erlyniad maleisus neu gamddefnyddio awdurdod yr heddlu mewn ffyrdd eraill.

nôl i'r dechrau