Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

Polisi preifatrwydd

  • Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ac at ba bwrpas?
  • E-bostio Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
  • Hawl Mynediad i ddata personol dan Ddeddf Diogelu Data 1998
  • Mesurau diogelwch
  • Nid yw Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn dal nac yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn awtomatig.

Rydym yn cofnodi cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) defnyddiwr, gwybodaeth sesiwn megis cyfnod ei ymweliad, a’r math o blatfform a ddefnyddiodd. Defnyddiwn y wybodaeth hon ar gyfer gweinyddu’r system yn unig ac i ddarparu ystadegau dienw i werthuso’r wefan.

Mae’r wefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, ond cynnwys gwefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn unig wna’r datganiad polisi preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ymwybodol o hyn wrth symud i wefan arall a sicrhewch eich bod yn darllen polisi preifatrwydd unrhyw wefan arall sy’n casglu gwybodaeth bersonol.

Pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu ac at ba bwrpas?

Rydym yn casglu gwybodaeth oddi wrthych pan ddefnyddiwch ein ffurflen adborth, yn archebu deunyddiau hyrwyddo’r CCC, yn cofrestru i dderbyn ein e-gylchlythyr neu’n gofyn am alwad gan ein llinell gymorth.

Adborth a’r ffurflen ffoniwch fi’n ôl

Os cwblhewch unrhyw adborth electronig neu'n gofyn i ni eich ffonio neu’ch e-bostio’n ôl ar y wefan hon, yr wybodaeth y gall y byddwn yn gofyn amdani yw eich:

  • enw
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn neu ffacs
  • manylion eraill a rowch sy’n cadarnhau’ch hunaniaeth fel unigolyn
  • problem gyfreithiol y gofynnwch am help ynglŷn â hi.

Gall y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn ymateb i’ch adborth, unrhyw ymholiadau neu faterion eraill yr ydych wedi eu codi ac i helpu’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol i wella’r wefan hon.

Os ydych wedi gofyn i ni eich ffonio neu’ch e-bostio’n ôl, bydd eich manylion yn cael eu hanfon at ein cysylltydd canolfan alwadau fel y gall gysylltu â chi.

Os gofynwch am gyngor trwy e-bost, dylech fod yn ymwybodol nad yw e-bost rhyngrwyd yn gyfrwng diogel, oherwydd gall rhywun arall ryng-gipio a darllen negeseuon.

Ni ellir ein dal yn gyfrifol am gamgymeriadau neu hepgorion, neu am wybodaeth anghyflawn neu gamarweiniol y gall ein bod wedi ei derbyn gennych chi.

Yn achlysurol gall y bydd y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn defnyddio adborth dienw i hyrwyddo’r wefan hon. Gall y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am adborth ynglŷn â’r gwasanaeth a gynigiwn.

Ffurflen archebu ar-lein

Os defnyddiwch ein ffurflen archebu ar-lein, yr wybodaeth y gofynnwn amdani yw eich:

  • enw
  • enw’r sefydliad a’r math o sefydliad
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn a ffacs
  • cyfeiriad.

Mae angen i ni anfon yr wybodaeth hon at ein cyflenwr allanol er mwyn cwblhau eich archeb.

e-gylchlythyrau a rhybuddion e-bost

Os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr trwy e-bost neu wedi mynd i’n gwefan, yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal yw eich:

  • enw
  • enw’r sefydliad
  • cyfeiriad e-bost.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i anfon atoch ein cylchlythyr e-bost deufisol. Defnyddiwn dotMailer i anfon y cylchlythyr hwn a chedwir pob gwybodaeth ar weinyddwyr diogel.

Yn achlysurol byddwn yn e-bostio sefydliadau sydd â dolenni i’n gwefan i roi gwybod iddynt am newidiadau i’n gwefan - er enghraifft, os ydym wedi newid tudalen allai effeithio ar ddolenni ar eu gwefannau nhw.

Os nad ydych eisiau derbyn unrhyw e-bostion pellach, cliciwch y ddolen dad-danysgrifio ar yr e-bost. Neu, e-bostiwch cla.marketing@legalservices.gov.uk. Os hoffech newid y cyfeiriad yr ydym yn anfon e-bostion ato neu os nad ydych wedi derbyn e-bost ond byddech yn hoffi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr e-bost, ewch i’r dudalen hon os gwelwch yn dda.

E-bostio Cyngor Cyfreithiol Cymunedol

Nid yw e-bost rhyngrwyd yn gyfrwng diogel, oherwydd gall rhywun arall ryng-gipio a darllen negeseuon. Ystyriwch hyn os gwelwch yn dda wrth benderfynu anfon gwybodaeth trwy e-bost neu beidio. Mae cyfeiriadau ar gyfer y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol ar gael yma.

Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yn cadw’r hawl i fonitro, cofnodi a chadw unrhyw e-bostion a dderbynnir neu a anfonir am resymau diogelwch ac i fonitro cydymffurfio mewnol â pholisi’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol ar ddefnydd staff. Gall y defnyddir monitro e-bostion a/neu rwystro meddalwedd a gall y bydd cynnwys e-bostion yn cael eu darllen. Mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau na thorrir cyfreithiau wrth ysgrifennu neu’n blaenyrru e-bostion a’u cynnwys. Ni allwn gytuno ar unrhyw gontractau trwy e-bost.

Hawl i fynediad i ddata personol dan Ddeddf Diogelu Data 1998

Os anfonwch gais ysgrifenedig at Paul Drinkwater, Direct Services, Gurkha Free Legal Advice, 2 Harbour Exchange Square, London, E14 9GE mae gennych hawl i gael gwybod: a yw’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol neu rywun arall ar ei ran yn prosesu'ch data

os felly, disgrifiad o’r data personol dan sylw, pwrpas ei brosesu, ac i bwy y caiff neu y gall gael ei ddatgelu mewn ffurflen hawdd i’w deall, yr holl wybodaeth a gynhwysir yn y data personol, a ffynhonnell y data. Mae ffi o £10 yn daladwy am y gwasanaeth hwn.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch os gwelwch yn dda at daflen y CGC Mynediad i Wybodaeth.

Mesurau diogelwch

Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (sy’n cynnwys Cyngor Cyfreithiol Cymunedol neu gynllun GCC) yn cymryd diogelwch ei systemau technoleg gwybodaeth (“TG”) wirioneddol o ddifrif. Mae ei bolisi diogelwch TG yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig: Cod Ymarfer Rheoli Diogelwch Gwybodaeth (BS7799). Mae’r polisi hwnnw’n darparu gorfodaeth i amddiffyn yr holl wybodaeth a ddelir ar ei systemau TG rhag datgelu anawdurdodedig, addasu neu chwalu - p’un ai’n ddamweiniol neu’n fwriadol.

Nod y polisi yw amddiffyn systemau TG y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol er mwyn cynnal:

  • cyfrinachedd - amddiffyn rhag datgelu gwybodaeth i bobl anawdurdodedig
  • uniondeb - rhwystro pob math o addasu a llygru anawdurdodedig o ran gwybodaeth a meddalwedd; ac
  • argaeledd - rhwystro colli argaeledd gwybodaeth a gwasanaeth, naill ai dros dro neu trwy chwalu parhaol.

Brig y dudalen

nôl i'r dechrau