Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

A allaf gael cymorth cyfreithiol?

Mae’r cyfrifydd cymorth cyfreithiol yn caniatáu i chi ganfod a allwch chi gael cymorth cyfreithiol ar gyfer achos sifil.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi ynglŷn â’ch problem a’ch amgylchiadau ariannol. Ni chedwir unrhyw wybodaeth a roir yn y cyfrifydd, felly mae’n gyfangwbl gyfrinachol a dienw.

Gallwch brintio’r canlyniadau ar y diwedd ar gyfer eich cofnodion.

Nid yw canlyniadau’r cyfrifydd yn gwarantu y byddwch yn derbyn cymorth cyfreithiol ond byddant yn gweithredu fel arweiniad. I gael y canlyniadau cywiraf fe all y bydd angen dogfennau personol neilltuol wrth law arnoch.

Pe baech yn derbyn budd-daliadau o’r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches (NASS), gall y bydd rheolau arbennig ar eich cyfer. I ganfod os oes, dylech gysylltu ag ymgynghorydd cyfreithiol. Gallwch ganfod ymgynghorydd trwy chwilio yn ein cyfeiriadur.

Newid pwysig

Gall newid diweddar i brawf modd cymorth cyfreithiol sifil effeithio arnoch chi os ydych hefyd wedi gwneud cais am gymorth cyfreithiol troseddol ar gyfer achos yn Llys y Goron.

O 11 Ionawr 2017, bydd angen i ni ystyried unrhyw daliad misol sydd raid i chi neu eich partner ei wneud dan 'orchymyn cyfrannu', tuag at gostau cynrychiolaeth gyfreithiol eich achos troseddol. Bydd yn rhaid didynnu swm y cyfraniad ynghyd ag unrhyw ddidyniadau eraill a wnewch ar gyfer treth incwm, taliadau yswiriant cenedlaethol, costau tai, etc, wrth asesu eich incwm gwario.

Os gwnewch gyfraniad misol tuag at gostau gymorth cyfreithiol troseddol, a’ch bod yn credu y byddwch nawr yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol sifil, rhowch dystiolaeth os gwelwch yn dda o'r swm a dalwyd i'ch cyfreithiwr.

Ydych chi’n ansicr beth yw cymorth cyfreithiol a phwy all ei gael? Canfyddwch ragor.

nôl i'r dechrau