Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

Gwasanaeth Ffôn

Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00y.b. i 8.00y.p. Dydd Sadwrn 9.00 y.b. - 12.30 y.p.

Ein Llinell Gymorth: 08001 225 6653

  • Pryder ynglŷn â budd-daliadau a chredydau treth?
  • Problemau ynglŷn ag ysgol eich plentyn?
  • A gollwyd rheolaeth ar eich dyledion?
  • A ydych yn cael eich trin yn annheg yn y gwaith?
  • A oes problemau rhyngoch chi a’ch landlord?

Gallwn helpu gyda phroblemau dyledion, gwaith, budd-daliadau a chredydau treth, tai ac addysg os ydych yn byw ar incwm isel neu ar fudd-daliadau.

Mae cymorth ar gael ar 08001 225 6653 rhwng 9am a 6.30pm Llun hyd Gwener. Y tu allan i’r oriau hyn gadewch neges a byddwn yn rhoi galwad yn ôl atoch yn ystod y diwrnod gwaith dilynol. Nid yw galwadau o linell-dir BT yn costio mwy na 4c y munud, ond mae galwadau ffôn symudol fel rheol yn ddrutach. Os ydych yn pryderu am y gost gofynnwch i gynghorwr eich ffonio’n ôl.

Beth fydd yn digwydd pan ffoniaf?

Y person cyntaf i siarad â chi fydd y gweithredwr. Nid yw’r bobl hyn wedi eu hyfforddi’n gyfreithiol ond byddant yn gofyn rhai cwestiynau i chi ynglŷn â’ch problem er mwyn canfod pa fath o help sydd ei angen arnoch. Os oes gennych broblem y gall ein llinell gymorth helpu i ymdrin â hi, bydd y gweithredwr yn gofyn rhagor o gwestiynau i chi ynglŷn â’ch sefyllfa ariannol er mwyn gweld a ydych yn gymwys ar gyfer cyngor am ddim. Gall ein cyfrifydd cymorth cyfreithiol hefyd fod o gymorth i benderfynu a ellwch gael cyngor am ddim ai peidio.

Pe bai’r gweithredwr yn canfod y gall staff ein llinell gymorth roi cyngor am ddim i chi bydd yn eich cysylltu’n syth â chynghorydd cyfreithiol arbenigol. Bydd y cynghorydd cyfreithiol arbenigol wedyn yn ymgymryd â’ch achos. Bydd yn ysgrifennu llythyrau ar eich rhan ac yn siarad drosoch â thrydydd person megis landlord a chredydwr. Gall hyd yn oed baratoi bwndeli o ddogfennau i chi ar gyfer tribiwnlys gwaith. Gallwch siarad â’ch cynghorydd, yn gyfrinachol, gymaint o weithiau ag y byddwch angen, hyd nes y caiff eich problem ei datrys.

Ni fyddwn byth yn codi tâl am ein gwasanaeth. Fe ariennir ein holl gyngor a’n cymorth yn llwyr gan y llywodraeth.

Beth allaf ei wneud os na all eich cynghorwyr fy helpu?

Os na fedrwn gynnig cyngor am ddim i chi ar y ffôn bydd ein gweithredwr yn rhoi gwybod i chi am ffyrdd eraill o dderbyn cymorth. Er enghraifft, gallwch gael manylion am sefydliad arall a allai eich helpu, neu gallwch gael cyfarwyddiadau ynglŷn â ffynonellau gwybodaeth gyfreithiol.

Mae cyngor ar gael mewn ieithoedd eraill

Mae gennym gynghorwyr a gweithredwyr sy’n siarad Cymraeg ac mae gan bawb yn ein tîm fynediad i’r Llinell Iaith - sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu sydyn mewn 170 o ieithoedd.

Minicom a Type-Talk

Gellir cael mynediad i’r llinell gymorth gyda Minicom a thrwy Type-Talk. Mae gwasanaeth Mimicom yn ddyfais teipiadur ffôn ar gyfer cysylltiad â phobl fyddar, trwm eu clyw, â nam ar y lleferydd neu’r/a’r clyw. Y rhif Minicom ydi 0845 609 6677. Mae Type-Talk yn galluogi’r sawl sydd ag anawsterau clywed i dderbyn cyngor ar y ffôn drwy gyfrwng gwasanaeth gweithredwr am ddim y gallant ryngweithio ag o drwy ffôn testun.

nôl i'r dechrau