Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

Beth yw fy hawliau os ydwyf yn symud I ofal preswyl

Mae gennych hawliau pan fyddwch yn symud i ofal preswyl, p'un a ydych yn talu drosoch eich hun neu bod y GIC neu wasanaethau cymdeithasol y cyngor lleol yn talu drosoch. Mae gennych hawl i safon neilltuol o ofal, er enghraifft, ac mae gennych hawl i gwyno pan na fodlonir y safon hwnnw.

Alla i ddewis i ble y caf fynd?

Os yw'r GIC yn talu am eich gofal, bydd yn penderfynu ym mhle y dylech fod. Os nad yw'r GIC yn talu, mae gennych beth dewis ynglŷn â'r lle yr ewch iddo.


Beth yw fy hawliau unwaith y byddaf mewn cartref gofal?

Mae gennych hawl i gael safon neilltuol parthed llety, gofal a gwybodaeth mewn cartref gofal, waeth pwy sy'n talu.


Alla i hawlio unrhyw fudd-daliadau i'm helpu i dalu am ofal preswyl?

Gall y byddwch yn cael budd-daliadau fydd yn eich helpu i dalu ffioedd gofal. Ond os bydd y cyngor lleol neu'r GIC yn talu drosoch, fe all y bydd rhai o'r budd-daliadau a dderbyniwch eisoes yn cael eu hatal.


Beth os oes gennyf broblemau gyda chartref gofal?

Os oes gennych broblemau gyda chartref gofal, dylech sôn amdanynt gyda hwy yn gyntaf. Ond gallwch hefyd gwyno i'ch cyngor lleol neu'r GIC os mai hwy a drefnodd neu sy'n talu am eich gofal.


nôl i'r dechrau