Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

A yw gofal preswyl yn addas ar fy nghyfer?

Efallai eich bod yn ystyried symud i ofal preswyl oherwydd:

  • eich bod yn cael trafferth i ymdopi gartref, neu
  • bod eich anghenion wedi newid, neu  
  • na all eich partner neu'ch gofalwr ddarparu cymaint o gymorth ag yn y gorffennol.  

Mae'n bwysig i fod yn sicr y byddai symud i gartref preswyl yn addas ar eich cyfer.  Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen gofal parhaol mewn cartref preswyl ar bobl hwn. Efallai y byddai rhagor neu ofal gwahanol gartref yn gallu cwrdd â'ch anghenion. Neu gallai symud i dw gwarchod fod yn ddewis. Am ragor ynglwn â'ch dewisiadau tai, gweler dudalennau Dewisiadau Tai ar wefan yr elusen AgeUK (corff newydd a sefydlwyd gan AgeConcern a Help the Aged).  

I'ch helpu i benderfynu, dylech ymweld â nifer o gartrefi addas. Mae AgeUK yn darparu rhestr wirioo'r hyn y dylid chwilio amdano mewn cartref. Gallwch chi neu'ch cyngor lleol hefyd geisio trefnu i chi gael aros mewn cartref am gyfnod byr fel cyfnod prawf.  

Gallwch ganfod rhagor yma am y math o ofal preswyl sydd ar gael; yr hyn y gallwch fod yn ei dalu; a beth yw eich hawliau.  

Pwy sy'n penderfynu a oes angen gofal preswyl arnaf?

Eich penderfyniad chi ddylai dewis mynd i gartref fod. Gall eich cyngor lleol eich helpu i wneud y dewis hwnnw.


Pa fath o ofal alla i ei gael?

Mae cartrefi gofal yn darparu rhywle i fyw ynddo, eich prydau bwyd a gofal personol. Gallant gael gofal iechyd gan y GIC petai ei angen arnoch. Ac mae rhai cartrefi gofal yn darparu eu gofal nyrsio eu hunain.


Beth os ydwyf angen gofal am gyfnod byr?

Fe all y byddwch angen gofal preswyl am ychydig wythnosau neu fisoedd yn unig. Os hynny, gall y byddwch â hawl i gael 'gofal canolraddol' dros dro, sydd am ddim. Fel arall, gall y byddwch yn gorfod talu.


Beth os ydwyf eisiau aros yn fy nghartref fy hun?

Mae gennych hawl i ddweud nad ydych yn dymuno symud i gartref gofal, hyd yn oed petai'ch cyngor lleol yn credu mai dyna fyddai orau i chi ac yn fwyaf cost effeithiol iddo yntau. Ond petaech yn dewis aros yn eich cartref eich hun, fe all na fyddwch yn cael yr holl gymorth fydd ei angen arnoch ac y bydd yn rhaid i chi herio'r cyngor.


nôl i'r dechrau