Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

A fydd raid I mi dalu am ofal as a alla I gael help I dalu?

Yn gyffredinol, rhoddir prawf modd ar gyfer gofal a drefnir gan wasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol, felly gall y bydd raid i chi dalu am ran neu'r cyfan ohono, hynny'n dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion. Gall y byddwch â hawl i fudd-daliadau lles, a allasai eich helpu i dalu am ofal. Mae gofal a drefnir gan y GIG i'w gael am ddim.

Mae'r dolenni isod yn egluro'r rheolau ynglwn â phwy sydd i dalu am ofal a faint.

Os credwch bod angen i chi fynd dan ofal preswyl, mae'r rheolau yn gymhleth. Darllenwch ragor yma.

Pwy sy'n talu os caf ofal cartref?

Fe all y bydd raid i chi dalu rhywfaint neu'r cyfan o gost gofal cartref a gewch gan eich cyngor lleol, hynny'n dibynnu ar eich incwm a'ch cynilion. Dyma sut y mae cyngor yn gweithio allan a ydyw yn mynd i godi tâl arnoch ai peidio.


Faint y bydd raid i mi ei dalu?

Dylai pob cyngor weithio allan faint y bydd raid i chi ei dalu yn ôl ei bolisi codi tâl tecach. Dyma'r rheolau y dylent eu dilyn i benderfynu faint i'w godi arnoch.


Alla i gael budd-daliadau i helpu i dalu am ofal?

Fe all y byddwch â hawl i gael budd-daliadau neilltuol mewn perthynas â'ch angen am ofal, ac i gael help o'r Gronfa Byw'n Annibynnol. Ac fe all y cewch help gyda'r rhent neu gostau cynnal eich cartref yn ogystal.


A wnaiff fy nghyngor lleol roi arian i mi i dalu am ofal?

Rhaid i'r cyngor gynnig i chi'r dewis o 'daliadau uniongyrchol' - arian a ddefnyddiwch i brynu'ch gofal eich hun. Os ydych yn ofalwr, fe all y cewch hefyd daliadau uniongyrchol fel y gallwch dalu am rai gwasanaethau gofal eich hunan.


nôl i'r dechrau