Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

28. Telir llai i mi na'r isafswm cyflog. Beth alla i ei wneud?

Eich hawliau os yw'ch cyflogwr yn talu llai i chi na'r isafswm cyflog

Mae'r rhan fwyaf o weithwyr â hawl gyfreithiol i'r isafswm cyflog cenedlaethol.. ceir cyfraddau gwahanol ar gyfer pobl wahanol ac maent yn newid pob mis Hydref. Yr isafswm cyflog cenedlaethol am Hydref 2008 i Hydref 2009 yw:

  • £3.53 yr awr os ydych rhwng 16 ac 17 oed (£3.57 o Hydref 2009);
  • £4.77 yr awr os ydych rhwng18 a 21oed (£4.83 o Hydref 2009); a
  • £5.73 yr awr os ydych yn 22 neu drosodd (£5.80 o Hydref 2009).

Nid oes gan rai pobl, yn cynnwys pobl hunangyflogedig ac aelodau o'r lluoedd arfog, yr hawl i'r isafswm cyflog cenedlaethol. A cheir rheolau arbennig ar gyfer math arall o weithiwr, megis prentis.

Os credwch nad yw'ch cyflogwr yn talu'r isafswm cyflog i chi mae gennych yr hawl i edrych ar unrhyw gofnodion sydd ganddo mewn perthynas â'ch cyflog. Ysgrifennwch at eich cyflogwr yn gofyn am gael gweld eich cofnodion cyflog; dylai eu rhoi neu eu dangos i chi o fewn 14 diwrnod. Cadwch gopi o'r llythyr. Petai'ch cyflogwr yn gwneud cam â chi neu'n eich diswyddo oherwydd eich bod wedi gofyn am gael gweld eich cofnodion cyflog, mae yn torri'r gyfraith.

Os nad ydych yn derbyn yr isafswm cyflog dylech naill ai alw Llinell Gymorth Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu siarad ag un o'n ymgynghorwyr cyflogaeth cyn gynted â phosib. Gallant eich helpu i hawlio yn erbyn eich cyflogwr a'ch cynghori ar y ffordd orau i hawlio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â'r isafswm cyflog cenedlaethol neu eich bod yn dymuno hawlio yna cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Llinell Gymorth Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar 0845 6000 678.

Os oes angen help arnoch i ddelio â'ch cyflog neu unrhyw wedd arall ar gyflogaeth, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n hymgynghorwyr cyflogaeth ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau