Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

24. Rydwi'n colli fy swydd a dwyf i ddim yn credu ei fod yn deg. Beth fedraf i wneud?

Beth i'w wneud os credwch eich bod yn cael eich diswyddo'n annheg

Os ydych wedi bod mewn swydd am o leiaf blwyddyn a bod eich swydd yn cael ei dileu, dylech ymorol fod eich cyflogwr wedi gwneud y canlynol:

  • Rhaid iddo ddangos na fydd eich swydd bellach yn parhau wedi i chi gael eich diswyddo.
  • Rhaid iddo siarad â chi, cyn eich diswyddo, ynglŷn â dewisiadau amgen i ddiswyddiad, a dylai geisio canfod swydd arall i chi o fewn y cwmni. Nid oes raid i'r swydd honno fod yn debyg i'ch swydd flaenorol nac wedi'i lleoli yn yr un man, ond mae'n rhaid iddi fod yn un y gallwch ei chyflawni.
  • Rhaid iddo ddangos bod y rhesymau dros eich dethol chi i gael eich diswyddo yn deg a gwrthrychol.

Os credwch nad yw eich cyflogwr wedi cyflawni'r un o'r pethau hyn, fe all y byddwch yn gallu hawlio diswyddiad annheg mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Os gallwch ddangos eich bod wedi'ch diswyddo'n annheg gallwch gael tâl dileu swydd ac iawndal am golli enillion yn ogystal.

I hawlio, cysylltwch â'r Swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth agosaf atoch i gael ffurflen hawlio. Cewch wybod ble mae'r swyddfa agosaf trwy alw ar linell Ymholiadau'r Tribiwnlys Cyflogaeth ar 0845 795 9775.

Bydd yn rhaid i chi hawlio o fewn tri mis llai un diwrnod o'r dyddiad y dilëwyd eich swydd. Felly, os mai 1 Awst 2009 oedd hwnnw, byddai'n ofynnol i chi wneud cais i dribiwnlys erbyn 31 Hydref.

Os buoch yn y swydd am ragor na dwy flynedd rydych yn debygol o fod â hawl i gael tâl dileu swydd. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr atebiad i Gwestiwn 25, ‘Beth ddylwn i ei gael fel tâl dileu swydd?´

Os oes angen help arnoch i ddelio â diswyddiad annheg, neu unrhyw wedd arall ar gyflogaeth, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n hymgynghorwyr cyflogaeth ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau