Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

16. Mae gan fy mhlentyn anawsterau dysgu ac fe all bod angen rhywfaint rhagor o gefnogaeth arno yn yr ysgol. Sut mae gofyn am hyn?

Canfyddwch pa gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael i'ch plentyn yn yr ysgol.

Gofynnwch am gael siarad â'r Cydgysylltydd Anghenion Addysg Arbennig (CAAA), yr athro sy'n trefnu cymorth ychwanegol, yn yr ysgol. Eglurwch pam eich bod yn pryderu a beth dybiwch chi fyddai o gymorth. Dylai ysgolion ddarparu pa bynnag gymorth ychwanegol y gall fod ei angen ar blant gydag anawsterau dysgu. Gall anawsterau dysgu gynnwys problemau emosiynol ac ymddygiadol yn ogystal â phroblemau deall.

Gall cymorth ychwanegol olygu:

  • defnyddio dulliau dysgu gwahanol gyda'ch plentyn;
  • cynnig iddo gefnogaeth athro cynorthwyol neu gwnselydd; neu
  • darparu cyfarpar arbennig ar gyfer eich plentyn.

Os na ellir diwallu anghenion eich plentyn gan yr ysgol yn unig, gallwch chi neu'r ysgol ysgrifennu at yr awdurdod lleol yn gofyn am ‘asesiad statudol'. Proses ffurfiol yw hon lle bydd asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn a'i addysg, yn ogystal â chwithau, yn asesu anghenion eich plentyn.

Wedi iddo gyflawni asesiad statudol fe all y bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu llunio ‘datganiad o anghenion addysgol arbennig' (a elwir yn aml yn ‘ddatganiad'). Dogfen gyfreithiol yw hon sy'n rhestru anghenion dysgu eich plentyn a'r cymorth a gaiff i ddiwallu'r anghenion hynny. Os na fydd eich plentyn yn derbyn y cymorth a amlinellir yn y datganiad, gallwch ddod ag achos cyfreithiol yn erbyn yr awdurdod lleol. Ond i wneud hyn bydd gofyn i chi gael cyngor cyfreithiol arbenigol.

Petai'r awdurdod lleol yn gwrthod gwneud asesiad statudol, neu eich bod yn anghytuno â'r hyn a benderfynwyd ynglŷn â'ch plentyn, gallwch apelio i'r corff a elwir SEND (Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd).

Mae hwn yn faes cymhleth. Os ydych angen cymorth i ddeall y gweithdrefnau, neu eich bod eisiau apelio neu ddod ag achos yn erbyn yr awdurdod lleol, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n ymgynghorwyr addysg ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau