Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

Beth All Fy Nghyflogwr Ei Ddidynnu O Fy Nghyflog?

Gwelwch Bob Offer Cyngor Gwelwch Bob Offer Cyngor

Beth all fy nghyflogwr ei ddidynnu o fy nghyflog?

Gall eich cyflogwr wneud didyniadau statudol, er enghraifft:

  • treth
  • yswiriant cenedlaethol
  • taliad benthyciad myfyriwr
  • taliad gorchymyn llys
  • Gall eich cyflogwr wneud didyniadau ychwanegol:
  • os yw eich cytundeb gwaith yn dweud y gall wneud hynny, ac y rhoddwyd copi o’r cytundeb hwnnw i chi, neu
  • os ydych wedi cytuno’n ysgrifenedig y gall wneud y didyniadau hyn, cyn iddo wneud hynny.

Ni all eich cyflogwr wneud unrhyw ddidyniadau eraill. Os gwna, gallwch ddwyn hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth.

Pam na all fy nghyflogwr atal o fy nghyflog?

Unrhyw ran neu’r cyfan o’ch cyflog yn cynnwys:

  • bonws neu gomisiwn
  • tâl gwyliau
  • tâl salwch
  • tâl mamolaeth neu dadolaeth
  • tâl mabwysiadu
  • credydau treth gweithio
  • taliadau meddygol a mamolaeth

A ydych yn gobeithio cael un o’r rhain yn ôl?

Mae eich cyflogwr wedi gwneud didyniadau eraill o’ch cyflog.

Dan rai amgylchiadau gallwch ddal i adennill yr arian; fodd bynnag, byddai hyn yn dibynnu ar amgylchiadau penodol eich achos. Os gwelwch yn dda, siaradwch ag ymgynghorydd, a all roi cyngor i chi ar gamau pellach y gallwch eu cymryd. Gall y rhain gynnwys cychwyn hawliad mewn llys sirol.

nôl i'r dechrau