Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

35. Beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol, a beth ellir ei wneud ynglŷn ag o?

Beth i'w wneud os yw ymddygiad rhywun yn aflonyddu arnoch neu yn peri dychryn neu ofid i chi.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw hwnnw pan fo rhywun wedi aflonyddu neu yn debygol o aflonyddu ar rywun nad yw'n byw ar yr un aelwyd ag ef.

Os ydych yn cael problemau oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol dylech gysylltu â'ch cyngor yn gofyn iddo archwilio'r mater. Gallwch hefyd ofyn i'r cyngor gysylltu â'r heddlu i geisio datrys y broblem.

Gall y cyngor weithredu mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys gofyn i'r sawl sy'n gyfrifol am yr ymddygiad gwrthgymdeithasol arwyddo ‘cytundeb ymddygiad derbyniol'. Cytundeb ysgrifenedig gwirfoddol ydi hwn sy'n rhestru'r gweithredoedd gwrthgymdeithasol yr addewir ganddo i beidio â bod yn rhan ohonynt. Os yw'r sawl sy'n achosi'r problemau yn denant i'r cyngor, gall y cyngor, yn y pen draw, ei droi allan o'i gartref.

Ar gyfer problemau mwy difrifol, neu os bydd i rywun dorri cytundeb ymddygiad derbyniol, gall y bydd y cyngor yn penderfynu fod yna ddigon o dystiolaeth i wneud cais i'r Llys Sirol am Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO). Mae hwn yn gwahardd y person gwrthgymdeithasol rhag ymddwyn mewn modd sy'n achosi niwsans neu annifyrrwch yn eich ardal. Mae Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn para am ddwy flynedd o leiaf. Os yw rhywun yn torri ei ASBO, mae'n drosedd a gellir ei anfon i garchar am hyd at bum mlynedd.

Os ydych angen cymorth i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu unrhyw wedd arall ar dai, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n ymgynghorwyr tai ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau