Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

34. Mae fy nhŷ yn rhan o Drosglwyddiad Stoc Cyngor. Sut mae hyn yn effeithio arnaf?

Ceisiwch wybodaeth am drosglwyddiadau stoc cyngor a pha hawliau sydd gennych.

Golyga 'trosglwyddiad stoc cyngor' eich bod yn newid o fod yn denant diogel i'r cyngor i fod yn denant sicr i ‘landlord cymdeithasol cofrestredig' (er enghraifft, cymdeithas tai). Cyn y gellir cyflawni trosglwyddiad mae'n rhaid i'ch landlord newydd gytuno i gynnig cytundeb tenantiaeth sicr newydd.

Mae eich cytundeb tenantiaeth newydd yn gosod eich hawliau, yn ogystal â manylion am eich rhent ac unrhyw daliadau eraill, pa mor aml y byddant yn codi, a faint o rybudd y dylech ei gael parthed unrhyw newid. Dylai ddangos yn eglur beth fydd y landlord yn ei wneud i chi, a beth allwch chi ei wneud â'ch cartref, gan gynnwys, er enghraifft, ei gyflwr addurno ac atgyweirio.

Os oes gennych yr ‘hawl i brynu' eich cartref cyngor, byddwch yn dal â'r hawl i brynu eich cartref wedi'r trosglwyddiad. Gelwir hyn yn ‘hawl i brynu a gadwyd'. Hyd yn oed pe na bai gennych yr ‘hawl i brynu a gadwyd', fe all eich bod yn gymwys am yr ‘hawl i gaffael'. Mae'r ‘hawl i gaffael' yn rhoi hawl statudol i denant landlord cymdeithasol cofrestredig i brynu ei gartref gyda gostyngiad.

Mae'r cynllun yn gymwys ar gyfer eiddo a drosglwyddwyd oddi wrth awdurdodau lleol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar ôl 1 Ebrill 1997, gydag eithriadau neilltuol megis cartrefi mewn aneddiadau bychain gwledig. Rhaid i chi fod wedi treulio o leiaf dwy flynedd fel tenant sector-gyhoeddus i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Os ydych yn pryderu am drosglwyddiad stoc cyngor neu unrhyw wedd arall ar dai, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n ymgynghorwyr tai ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau