Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

27. Pa hawliau yn y gwaith sydd gan bobl ag anableddau?

Canfyddwch sut mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn rhwystro trin pobl yn annheg yn y gwaith

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGA) yn rhwystro gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ym mhob rhan o gyflogaeth. Golyga hyn y gall cyflogwr fod yn torri'r gyfraith os yw'n eich trin yn llai ffafriol na phobl eraill a hynny am reswm yn ymwneud â'ch anabledd. Mae'r gyfraith yn eich amddiffyn pan fyddwch yn ymgeisio am swydd, pan fyddwch wrth eich gwaith a hyd yn oed, mewn rhai sefyllfaoedd, pan fyddwch wedi gadael eich swydd.

Rhaid i'ch cyflogwr wneud addasiadau ‘rhesymol' i'r gweithle i'ch galluogi i wneud y gwaith. Gall hyn fod, er enghraifft, yn ddarparu ffôn neu fysellfwrdd gwahanol neu newid eich oriau gwaith i hwyluso eich trefniadau â chymhorthydd gofal.

Os ydych yn anabl ac yn dechrau ar swydd newydd, neu'n cael anawsterau gyda'r trefniadau wnaed gan eich cyflogwr presennol, ysgrifennwch at eich cyflogwr yn egluro beth yw'ch anabledd ac yn egluro pa addasiadau y credwch y dylent eu gwneud. Cadwch gopi o'ch llythyr rhag ofn i anghydfod godi. Os dywed eich cyflogwr nad ydych yn anabl bydd angen tystiolaeth feddygol arnoch i ddangos eich bod yn cyfarfod â'r disgrifiad o berson anabl yn y DdGA.

Os credwch fod eich cyflogwr yn gwahaniaethu i'ch erbyn, gallwch hawlio i'w erbyn mewn Tribiwnlys Cyflogaeth. Gallwch wneud cais uniongyrchol i'r Tribiwnlys Cyflogaeth heb yn gyntaf ysgrifennu at eich cyflogwr ond os gwnewch hyn, fe all y byddwch yn derbyn llai o iawndal.

I hawlio, cysylltwch â'r Swyddfa Tribiwnlys Cyflogaeth agosaf atoch i gael ffurflen hawlio. Cewch wybod ble mae'r swyddfa agosaf trwy alw ar linell Ymholiadau'r Tribiwnlys Cyflogaeth ar 0845 795 9775. Bydd yn rhaid i chi hawlio o fewn tri mis llai un diwrnod o'r dyddiad y gwahaniaethwyd i'ch erbyn gan eich cyflogwr. Felly, os mai ar 1 Awst 2009 y gwahaniaethwyd i'ch erbyn, byddai'n ofynnol i chi wneud cais i dribiwnlys erbyn 31 Hydref fan bellaf.

Os oes angen help arnoch i ddelio â gwahaniaethu neu unrhyw wedd arall ar gyflogaeth, fe'ch argymhellwn i siarad ag un o'n hymgynghorwyr cyflogaeth ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Nid yw cyngor arbenigol ar y ffôn ar gael ond yn unig os ydych yn gymwys am gymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau