Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

5. Sut alla i ddelio ag ôl-ddyledion Treth Gyngor?

Yr hyn y gallwch ei wneud os ydych ar ôl yn talu'ch Treth Gyngor.

Os ydych ar ôl gyda'ch taliadau Treth Gyngor, dylech gymryd camau i ddelio â'r mater yn syth, oherwydd bod gan y cyngor bwerau eang i'ch gorfodi i dalu. Gall ofyn i'r llys am orchymyn fydd yn caniatáu iddo:

  • ddefnyddio beilïod i gael yr arian oddi arnoch (trwy gymryd pethau sy'n eiddo i chi);
  • cymryd arian o'ch cyflog neu fudd-daliadau neilltuol;
  • gwneud cais i'ch cael yn fethdalwr; neu
  • wneud cais am ‘orchymyn codi tâl' am eich cartref, os ydych yn berchen cartref (sy'n golygu y gallai'r cyngor wneud cais i'r llys i gael ei werthu er mwyn cael yr arian sy'n ddyledus gennych).

Pe metha popeth arall, gall eich cyngor ofyn i lys yr ynadon ystyried eich anfon i garchar am beidio â thalu.

Gwirio'r hyn y dylech ei dalu

Yr adeg yma, mae'n werth gwirio a ellwch ofyn am gael talu llai o Dreth Gyngor, neu a oes angen o gwbl i chi orfod talu Treth Gyngor (esemptiad Treth Gyngor). Fe all y byddwch yn gallu gostwng yr hyn sy'n ddyledus gennych. Er enghraifft:

  • Os ydych ar incwm isel, fe all y cewch hawlio Budd-dal Treth Gyngor wedi ei ôl-ddyddio.
  • Os mai chi yw'r unig oedolyn sy'n byw yn y tŷ (heblaw am fyfyrwyr, gofalwyr llawn-amser, pobl ag anabledd meddyliol dwys ac unrhyw un y mae ei brif gartref yn rhywle arall), yna gallwch hawlio gostyngiad Treth Gyngor (25 y cant).
  • Os yw'r unig bobl sy'n byw yn eich tŷ yn fyfyrwyr llawnamser neu bobl ag anabledd meddyliol dwys, nid oes raid i chi dalu Treth Gyngor.

Delio â beilïaid

Os yw eich cyngor wedi rhoi'r ddyled yn nwylo beilïod yna gallwch ddal i drafod gyda'r cyngor. Fe all y cytuna i stopio'r beilïod rhag gweithredu, a derbyn cynllun ad-dalu. Os gwna hyn, byddwch yn osgoi gorfod talu ffioedd beilïod.

Fe all y byddwch hefyd yn gallu cytuno ar gynllun ad-dalu â'r beilïod eu hunain. Fodd bynnag, bydd y beilïod fel rheol eisiau ad-daliad dros gyfnod eithaf byr. Gall beilïod preifat fod yn rhai anodd iawn i ddelio â hwynt ac fel rheol mae'n well peidio â gadael iddynt gael mynediad i'ch cartref. Ni chaniateir iddynt gael mynediad trwy rym oni bai eich bod wedi gadael iddynt ddod i mewn ar ymweliad blaenorol.

Os ydych yn cael problemau yn trafod trefniant ad-dalu fforddiadwy gyda'ch cyngor neu feilïod, ceisiwch gyngor gan un o'n ymgynghorwyr dyledion (gweler isod).

Pa bryd y gellir fy ngharcharu

Os daw hi i'r pen, gall eich cyngor ofyn i'r llys ynadon ystyried eich anfon i garchar am fethu talu. Gellir eich anfon i garchar ond yn unig petai'r ynadon yn credu eich bod yn ‘gwrthod talu' yn hytrach nag yn ‘methu talu' eich dyledion.

Os mai dyna yw'r achos, mae'n debygol y bydd y llys yn rhoi ‘gorchymyn traddodi ataliedig'. Golyga hyn y bydd yr ynadon yn pennu swm i chi ei dalu bob wythnos neu bob mis. Ni charcharir chi ond yn unig petaech yn methu talu un o'r taliadau hyn. Petai hynny'n digwydd, byddwch yn derbyn gwarant i'ch arestio a'ch dwyn gerbron yr ynadon.

Petaech yn derbyn gwarant, neu eich bod wedi methu taliadau, dylech gael cyngor arbenigol mor fuan ag y gallwch.

Os oes angen cymorth arnoch i ddelio ag ôl-ddyledion treth gyngor neu unrhyw wedd arall o ddyled, argymhellwn eich bod yn siarad ag un o'n ymgynghorwyr dyledion ar 08001 225 6653. Mae cyngor arbenigol ar y ffôn i'w gael yn unig ar gyfer y sawl sy'n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau