Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

4. Derbyniais ffurflen Hawliad Llys Sirol. Beth wna fi'n awr?

Sut i ateb neu ofyn am adolygiad, a'r hyn sy'n digwydd os na thalwch.

Gall derbyn ffurflen Hawliad Llys Sirol, er enghraifft, am arian sy'n ddyledus gennych, ymddangos yn fater pryderus, ond fel rheol gallwch ddelio â'r broses trwy'r post, heb fod angen gwrandawiad llys.

Petaech yn derbyn hawliad fel hyn, fel rheol bydd y ffurflenni a ddefnyddiwch i ateb wedi eu hamgáu gyda'r ffurflen gais. Mae'n bwysig ateb o fewn 14 diwrnod wedi derbyn y ffurflenni.

Os ydych eisiau amser i gael cyngor ynglŷn ag amddiffyn yr hawliad (er enghraifft, oherwydd nad ydych yn cytuno â'r swm a hawlir), yna llanwch y ffurflen ‘gydnabyddiaeth' o fewn 14 diwrnod. Bydd hyn yn ymestyn eich cyfnod i ddychwelyd ffurflen amddiffyniad i 28 diwrnod.

Sut i ateb yr hawliad

Gallwch ateb yr hawliad mewn nifer o ffyrdd:

  • Os ydych yn derbyn bod y swm dyledus yn gywir ond na allwch fforddio ei dalu'n llawn, defnyddiwch y ffurflen ‘Addefiad'. Llanwch hon â'ch manylion ariannol a chynnig o daliad y gallwch ei fforddio a dychwelwch hi o fewn 14 diwrnod. Peidiwch â chynnig talu mwy na'r hyn y gallwch ei wir fforddio.
  • Os credwch nad oes arnoch y ddyled a hawlir, defnyddiwch y ffurflen Amddiffyn a Gwrth-hawlio. Os ydych eisiau amddiffyn yr hawliad, rhai i chi ddychwelyd y ffurflen Amddiffyn i'r llys.
  • Os credwch fod rhywfaint o'r ddyled sydd arnoch yn gywir ond bod rhywfaint yn anghywir, defnyddiwch y ddwy ffurflen.

Sut i ofyn am adolygiad

Os gwnaethoch gynnig i dalu, ond bod y llys wedi'ch gorchymyn i dalu mwy na'r hyn a gynigiasoch, gallwch ofyn i'r llys ailystyried eich cynnig mewn gwrandawiad. Cynhelir gwrandawiad yn eich llys sirol lleol.

Os na thalwch

Os nad ydych yn talu'r hyn a orchmynnwyd gan y llys, gall yr hawlydd (y sefydliad neu'r bobl yr ydych yn ddyledus iddynt) wneud cais am ‘orfodaeth', sydd yn ffordd o'ch gorfodi i dalu. Gwneir hyn, er enghraifft, trwy:

  • ofyn i feilïod y llys ymweld â chi;
  • gwneud cais am ‘orchymyn atafaelu enillion' (i gael yr arian wedi ei dynnu o'ch cyflog neu'ch budd-daliadau); neu
  • gofyn i'r llys am ‘orchymyn codi tâl' ar unrhyw eiddo a berchnogir gennych, megis eich cartref (sy'n golygu y gall y credydwr wneud cais i'r llys am gael ei werthu i gael yr arian sy'n ddyledus gennych).

Os bydd i'r llys ddyfarnu yn eich erbyn, fel rheol fe ychwanegir costau a ffioedd y llys at eich dyled.

Os rhoddir dyfarniad llys sirol yn eich erbyn, cofnodir hyn ar gofrestr oni bai y byddwch yn talu'r ddyled o fewn 28 diwrnod wedi'r dyfarniad. Bydd yn aros ar eich cofnod credyd am chwe blynedd wedi'r dyfarniad, a gall hynny ei gwneud hi'n anos i chi gael credyd.

Os oes angen help arnoch i ddelio â ffurflen gais Llys Sirol neu eich bod yn pryderu ynglŷn ag unrhyw wedd arall ar ddyled, argymhellwn eich bod yn siarad ag un o'n ymgynghorwyr dyled ar 08001 225 6653 i gael cyngor arbenigol. Mae cyngor arbenigol ar y ffôn i'w gael yn unig ar gyfer y sawl sy'n gymwys ar gyfer cymorth cyfreithiol.

nôl i'r dechrau