Skip navigation (access key S)

Access Keys:

Cyfrinachedd

Angen siarad â rhywun nawr?

  • Cael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim

    Galwch 08001 225 6653
  • Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am i 8.00pm
  • Dydd Sadwrn 9.00am i 12.30pm
  • Mae galwadau yn costio o 4c y funud - neu gofynnwch i ni eich ffonio'n ôl

Chwiliwch am gynghorwyr yn eich ardal chi

40. Beth all y gwasanaethau cymdeithasol ei wneud os ydynt yn pryderu am fy nheulu?

Mae gan bob awdurdod lleol adran gwasanaethau cymdeithasol sydd â dyletswydd i amddiffyn plant yn ei ardal a all fod mewn perygl o gael niwed.

Os caiff adran gwasanaethau cymdeithasol wybod am blentyn yr ystyrir ei fod mewn perygl o ddioddef niwed, rhaid iddynt archwilio’r mater.Gall yr wybodaeth ddod o nifer o ffynonellau yn cynnwys yr heddlu, ysgolion, ysbytai neu aelodau'r cyhoedd.

Hefyd, rhaid i wasanaethau cymdeithasol weithio gyda theuluoedd i'w cadw gyda'i gilydd os mai hynny sydd orau i'r plant. Mae'n hawdd teimlo dan fygythiad ac yn ofnus os daw gwasanaethau cymdeithasol i ymwneud â'ch teulu, ond mae'n bwysig cofio nad yw'r gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio cymryd plant oddi wrth eu teuluoedd; yn syml, maent yn ceisio sicrhau bod y plant yn ddiogel ac mewn gofal da.Felly, gwnewch eich gorau i weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol os dônt i ymwneud â'ch teulu.

Daw gweithiwr cymdeithasol i ymweld â'r cartref i siarad â'r teulu.Bydd y canlyniad yn amrywio, ond gall fod yn:

  • dim ymwneud pellach
  • cynnig cefnogaeth barhaus
  • pennu gweithiwr cymdeithasol ar gyfer y teulu i weld a yw'r sefyllfa'n gwella dros gyfnod o amser.

Os na fydd y sefyllfa'n gwella, neu os yw'n gwaethygu, bydd yr holl bobl broffesiynol sy'n ymwneud â hi yn rhannu gwybodaeth am les y plant. Byddant yn penderfynu a ddylai'r plant gael eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant neu beidio, a bydd cynllun gweithredu'n cael ei ddilyn i amddiffyn y plant ac i roi cyfle i'r teulu i wella'r sefyllfa.

Os oes risg ddifrifol iawn i blentyn gael niwed, bydd camau brys yn cael eu cymryd. Gallai hyn fod trwy orchymyn amddiffyn gan yr heddlu neu gan y gwasanaethau cymdeithasol drwy orchymyn amddiffyn brys. Byddai'r gorchymyn hwn yn rhoi'r plant mewn man diogel, efallai cartref aelod arall o'r teulu neu, os nad oes neb arall ar gael, cartref maeth. Byddai hyn yn digwydd dim ond yn unig os oes risg ddybryd i'r plentyn gael niwed mawr.

nôl i'r dechrau